Adfywiad Cymunedol Blaenllechau

Bu grŵp o bobl ifainc o Flaenllechau, Rhondda Cynon Taf, yn gweithio gydag artist lleol, Dylan Thompson, ar gerflun a phroject celfyddyd gain. Penderfynodd y grŵp greu cerflun mawr yn dangos eu dehongliad hwy o’r ddraig Gymreig – cynllun newydd sbon a fyddai’n wahanol iawn i’r ddraig goch nodweddiadol.

Ar ôl edrych ar frasluniau a lluniadau lluniodd y grŵp ysgerbwd o wifren. Yna gorchuddiwyd yr ysgerbwd â chlai sy’n caledu yn yr aer er mwyn gwneud corff y ddraig. Gwnaed y breichiau, coesau, pen a’r adenydd ar wahân ac fe’u cysylltwyd yn ddiweddarach. Gwnaed pilenni’r adenydd o ddeunydd a orchuddiwyd â glud er mwyn eu caledu. Wedi i’r croen sychu, defnyddiwyd offer i’w gerfio a chrëwyd gwead drwy ychwanegu manylion fel cennau. Peintiwyd y ddraig orffenedig yn goch a rhoddwyd farnais er mwyn ei diogelu rhag niwed.

“Y syniad y tu ôl i’r project oedd meddwl am syniad a chreu rhywbeth cyffrous a thrawiadol. Mae ein Draig Gymreig yn llawn dychymyg, ond hefyd yn nodweddiadol Gymreig.”

Hywel Mills, un o gyfranogwyr y project.

PDF version

Blaenllechau Dragons
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm