Mewn partneriaeth â Viva! cafodd grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Rhondda Cynon Taf gyfle i weithio gyda Pippin's Designs yng Nghanolfan BELL ym Mlaenllechau, er mwyn creu gwaith celf ar thema treftadaeth a diwylliant Cymru. Penderfynodd y bobl ifanc greu paentiadau o Gymry enwog a llefydd adnabyddus yng Nghymru, a gynrychiolai'r hyn yr oedd diwylliant Cymru'n ei olygu iddyn nhw.
Sefydliad yw Viva! sy'n cynnig cyfleoedd hamdden a hyfforddiant i bobl ifanc gydag anableddau a heb anableddau rhwng 11 a 25 oed.








