'Ysgol o'r Oes a Fu'

Ysgol Bedwellte

Aeth pedair merch o Ysgol Bedwellte i ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Bu'r pedair yn gwrando, yn cyfranogi, ac yn cymryd nodiadau wrth glywed am fywyd ysgol yr oes a fu. Yn ôl ym Medwellte, defnyddiodd y merched yr holl wybodaeth a gawsant i ysgrifennu sgriptiau i fynegi'u teimladau ynglŷn â'r bwriad i gau’r ysgol yn fuan. Ymysg nifer o themâu diddorol, nododd y merched, “byddai’r plant yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg", a "byddai'r athro yn mynd o amgylch y dosbarth yn mesur sgertiau'r merched i wneud yn siŵr eu bod yr hyd cywir”. Goruchwyliodd staff o'r Ysgol ac Amgueddfa Tŷ Weindio Glofa Tref Eliot y merched wrth iddynt ddidoli ffotograffau o’r gorffennol i'w helpu i ddod â'u straeon digidol yn fyw.

Straeon digidol!

PDF version

Breaking Barriers Caerphilly County Council
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm