Cafodd y baneri hyn eu cynllunio a’u creu gan ddisgyblion blwyddyn 10 o Ysgol Penglais, a fu’n gweithio gyda’r artistiaid cymunedol Pod Clare a Jen Clare. Cynlluniwyd y baneri i godi ymwybyddiaeth ac i hysbysu’r cyhoedd am hanes morol y dref, a phwysigrwydd gweithgarwch y porthladd. Ymwelodd y disgyblion ag Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, i ymchwilio i’r pwnc a dewis gwahanol agweddau i’w cynnwys yn eu cynlluniau. Dyma rai enghreifftiau:
- Mae’r faner hon yn cynrychioli’r pellteroedd mawr a deithiwyd gan gychod o Aberystwyth ar y môr.
- Baner ynglŷn â physgota penwaig yw hon, a oedd yn ddiwydiant pwysig yn yr ardal tan yr ugeinfed ganrif. Pysgotwyd hwy yn eu miliynau o gychod bach, yna byddent naillai’n cael eu sychu mewn mwg, neu’n cael eu halltu, cyn iddynt gael eu storio a’u gwerthu mewn casgenni.
- Mae’r faner hon yn dangos esiamplau o’r nifer o lefydd ar draws y byd oedd yn masnachu ag Aberystwyth, yn mewnforio pren o Ganada a the o Affrica, ac yn allforio plwm a chopr i nifer o lefydd, yn cynnwys y gymuned Gymreig ym Mhatagonia.
- Mae’r faner hon yn dangos pa mor ofergoelus oedd y morwyr, a oedd yn credu bod nifer o angenfilod peryglus yn y môr, yn cynnwys môr-forynion a fedrai eu denu i’w marwolaeth.
- Mae’r faner hon yn adlewyrchu’r gweithgareddau a ddefnyddiai’r morwyr i basio’r amser, megis adeiladu llongau mewn poteli neu glymu clymau addurnol, pan nad oedd gwynt ar y môr a phan fyddent yn isel eu hysbryd.
- Gallai morwyr fod ar y môr am nifer o flynyddoedd ar y tro, ac mae’r faner hon yn dangos darn o lythyr sy’n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa, yn ogystal â chofarwydd siâp calon a wnaed gan forwr ar gyfer ei gariad.







