Mynediad Ieuenctid
Aeth chwe merch ifanc o Mynediad Ieuenctid, un o raglenni Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i weld yr amgueddfa wisgoedd yng Nghaerfaddon, ac i Lancaiach Fawr, maenordy o’r ail ganrif ar bymtheg. Digiodd y ddwy wrth edrych, gwrando a dysgu am sawl agwedd ar fywyd merch o’r cyfnod hwnnw. “Dychmyga wisgo ffrwyn y gecren.” “Ych, minlliw o saim mochyn!” Ac aethant ati i wneud rhywbeth, drwy ysgrifennu sgriptiau, tynnu ffotograffau, recordio eu lleisiau a golygu eu deunydd i wneud ffilmiau a fynegai, yn eu ffordd unigryw eu hunain, eu diolchgarwch eu bod yn fyw heddiw, ac nid yn y cyfnod hwnnw.
Project addysg yw Mynediad Ieuenctid sy’n rhoi cyfle i bobl ifainc (Blwyddyn 11 ar hyn o bryd) nad ydynt yn “ffitio i mewn” i ysgol prif lif.









