Project Cerddoriaeth gan Ganolfan Galw Heibio Aberaeron
Gweithiodd pobl ifanc o Ganolfan Galw Heibio Aberaeron ar 3 chân am hanes lleol ar gyfer y project Ar Dir Cyffredin. Gan gydweithio â’r recordydd sain Max Trax, cynhyrchodd y grŵp ddehongliadau newydd o destunau hanesyddol cyfarwydd. Mae’r project hwn wedi codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwybodaeth am ddigwyddiadau pwysig yn hanes Gorllewin Cymru, fel chwedl y Greal Sanctaidd a Therfysgoedd Beca.







